Author: Deleted User

Her Haf Mathemateg j2blast

Mae j2e yn lansio her arbennig ym maes mathemateg i gynnal sgiliau mathemateg meddwl dysgwyr yn ystod gwyliau’r haf.

Mae Her Haf Mathemateg j2e yn agored i bob ysgol. Bydd enw pob dysgwr sy’n chwarae o leiaf 10 gêm ar j2blast Go Live! yn cael ei roi mewn cystadleuaeth i ennill un o’r talebau £20 sydd ar gael gan Argos. Bydd pob ysgol yn cael ei rhoi mewn cystadleuaeth i ennill gwobr o £200 i’w wario ar adnoddau o’u dewis.

Bydd yr her yn cael ei chynnig rhwng 20 Gorffennaf a 3 Medi 2018.

Bydd rhaid i’r plant mewngofnodi i Hwb a J2e.

Trip Bl.D, 1 19/07/18

Trip Blwyddyn Derbyn a Bl 1 – Ar ddydd Iau, 19eg o Orffennaf byddwn yn mynd ar ein trip diwedd blwyddyn i’r Bala. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £6 y plentyn i dalu am y trip. Fedrwch dalu trwy ParentPay neu siec yn daladwy i Gyngor Sir Powys. Mi fydd angen dod â phecyn bwyd a bydd y bws yn gadael am 9.30yb ac yn dychwelyd adref erbyn 3.30yp. Os ydych chi’n dymuno, bydd cyfle i’r plant wario hyd at £3 yn y siop drenau.